Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 94(4) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

2019 Rhif (Cy. )

LANDLORD A THENANT, CYMRU

DALIADAU AMAETHYDDOL

Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 fel y mae’n gymwys o ran Cymru.

Mae adran 64 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 yn rhoi’r hawl i denant daliad amaethyddol, wrth i’r denantiaeth ddod i ben ac wrth iddo ymadael â’r daliad, gael digollediad oddi wrth y landlord am waith gwella a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 8 y mae’r tenant wedi ei gyflawni ar y daliad.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn mewnosod paragraffau newydd yn Atodlen 8 i ddarparu ar gyfer talu digollediad am waith gwella o ganlyniad i ddodi deunyddiau gwella pridd, gweddillion treuliad anaerobig, tail a gwrtaith ar y tir (gyda dim cyfyngiadau o ran sut y caffaelir y sylweddau hynny); ac am waith gwella o ganlyniad i dail a gaiff ei storio ac sydd wedi deillio o fwyta, gan dda byw ac aelodau teulu’r ceffyl ar y daliad, rawn (a gynhyrchir ar y daliad ai peidio) neu fwyd anifeiliaid arall nas cynhyrchir ar y daliad. 

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 94(4) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

2019 Rhif (Cy. )

LANDLORD A THENANT, CYMRU

DALIADAU AMAETHYDDOL

Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                                           ***

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 91(1) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986([1]).

Yn unol â’r ddarpariaeth honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff hynny o bersonau yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau landlordiaid a thenantiaid daliadau amaethyddol.

Yn unol ag adran 94(4) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Tachwedd 2019.

Diwygio Atodlen 8

2.(1)(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (gwaith gwella byrdymor y mae digollediad yn daladwy amdano) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Ar ôl paragraff 4A mewnosoder—

4B. Application to land in Wales of manure, fertiliser, soil improvers and digestate.

(3) Hepgorer paragraff 5.

(4) Ar ôl paragraff 5A mewnosoder—

5B.—(1) In relation to Wales, production of manure arising from the consumption on the holding of relevant feedingstuff by livestock and equidae where the manure is held in storage on the holding.

(2) In this paragraph “relevant feedingstuff” means—

(a)   corn (whether produced on the holding or not), or

(b)   cake or other feedingstuff not produced on the holding.

(5) Hepgorer paragraff 6.

 

 

 

Enw

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 



([1])   1986 p. 5; mae adran 96(1) yn diffinio mai “the Minister” (“y Gweinidog”) o ran Cymru yw’r Ysgrifennydd Gwladol. Mae swyddogaethau’r Gweinidog o dan y Ddeddf bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru) yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.